Grŵp Trawsbleidiol ar Glefyd Seliag a Dermatitis Herpetiformis

Cross-party Group on Coeliac Disease and Dermatitis Herpetiformis

Dyddiad ac amser:   Dydd Iau 8 Mehefin 2023, 12.00 – 13.00

Lleoliad:            Zoom


Yn bresennol: Rhun ap Iorwerth – Cadeirydd (RaI), Tristan Humphreys – Ysgrifennydd/Coeliac UK (TH), Fiona Newsome (FN), Claire Constantinou (CC), Gwawr James (GJ), Ian Severn (IS), Dr Geraint Preest (GP), Dr Richard Cousins (RC), Eleanor Wilson (EW)

Rhif

Eitem

1

Ymddiheuriadau am absenoldeb:

Dr Ieuan Davies, Llyr Gruffydd, Peredur Owen Griffiths, Graham Phillips

2

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf.

3

a.    Y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch a’r adroddiad 

 

Cyflwynodd FN y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar gostau a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2023 a’i effaith ar y gymuned. Hefyd, rhannodd wybodaeth am Gam 2 yr ymgyrch ar gostau sy'n canolbwyntio ar fanwerthwyr yn ogystal ag am arolwg gwyddoniaeth ddinasyddion ynghylch argaeledd a chost nwyddau heb glwten mewn archfarchnadoedd.

 

b.    Arolwg gwyddoniaeth ddinasyddion o arferion siopa bwyd 

c.    Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod ag Ymddiriedolaeth Trussel 

 

Cyflwynodd TH y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am gyfarfod CUK ag Ymddiriedolaeth Trussel (TT). Soniodd TH fod TT yn teimlo'n hyderus fod y bobl y mae angen bwydydd heb glwten arnynt yn gallu cael mynediad a y bwydydd hyn, ond y dylai pobl fod yn cael mynediad at gymorth trwy ddulliau eraill cyn iddynt orfod troi at fanc bwyd. Soniodd TH fod y drafodaeth hon yn parhau ac y bydd yn rhoi gwybod i’r grŵp am unrhyw gynnydd.

 

d.    Y wybodaeth ddiweddaraf am ragnodi 

 

Cyflwynodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am ragnodi yn Lloegr ers i 106 o Grwpiau Comisiynu Clinigol uno i greu 42 o Fyrddau Gofal Integredig. Rhannodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Cymhorthdal Heb Glwten Cymru. Mae Cydwasanaethau'r GIG bellach wedi cymryd yr awenau o ran y gwaith o redeg y cynllun - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd yn gyfrifol am y gwaith hwn yn wreiddiol. Mae CUK yn rhan o'r grŵp llywio. Dywedodd TH wrth y grŵp fod byrddau iechyd mewn gwahanol sefyllfaoedd, a bydd hon yn broses araf ond y bydd cefnogaeth ar lefel genedlaethol ar gael ar gyfer cyflawni a gweinyddu. Nid yw CUK wedi cyfarfod â’r Cydwasanaethau eto ond mae'n gobeithio gwneud hynny yn fuan. Pwysleisiodd TH bwysigrwydd cael proses dryloyw a chywir.

5

Gweithgarwch Seneddol

a.    Y wybodaeth ddiweddaraf am Ymchwiliad y Grŵp Hollbleidiol Seneddol i Ddiagnosis a’r sesiynau tystiolaeth cysylltiedig
 

Cyflwynodd TH y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ymchwiliad y Grŵp Hollbleidiol Seneddol i ddiagnosis a’r sesiynau tystiolaeth cysylltiedig; mae'r sesiynau tystiolaeth ar ddiagnosis bellach wedi'u cwblhau.

 

Hefyd, gofynnodd TH a hoffai unrhyw un arall gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad, o gofio bod yr arolwg yn dal ar agor. Gall aelodau’r grŵp sydd am gyfrannu ddefnyddio’r linc a ganlyn: (https://www.surveymonkey.co.uk/r/F3J5WRV). Dywedodd TH y byddai'r adroddiad yn cael ei ysgrifennu dros yr haf, gyda'r nod o’i lansio mewn digwyddiad yn San Steffan ar 13 Medi. 

 

b.    Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad Senedd yr Alban 

 

Dywedodd TH wrth y grŵp fod CUK wedi cynnal derbyniad ar thema diagnosis ym mis Mawrth yng nghwmni Maree Todd ASA, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd ar y pryd, a bod nifer dda o bobl wedi dod. Mae hyn wedi ysgogi trafodaethau ychwanegol ar gyflwyno’r llwybr yn yr Alban.

 

6

Wythnos codi ymwybyddiaeth

 

a.    Y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch CUK 
 

Cyflwynodd TH y wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp am ymgyrch CUK ar y thema 'Mae clefyd coeliag yn edrych yn wahanol i bawb', sydd â'r nod o daflu goleuni ar symptomau nad ydynt yn cael eu cydnabod yn ddigonol. Roedd yr ymgyrch wedi cael sylw gan nifer o sianeli yn y cyfryngau a bu gweithgarwch seneddol yn gysylltiedig â hi hefyd.  

 

b.    Datganiad barn 

 

Yng Nghymru, cyflwynodd RaI Ddatganiad Barn yn ogystal â chwestiynau seneddol (PQs). Hefyd, cyflwynodd Mark Isherwood gwestiynau seneddol a chwestiynau llafar i’r Gweinidog. Dywedodd TH fod hyn wedi cael effaith a bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gyfarfod â CUK.

 

7

Datblygu Llwybr Diagnosis 

 

a.    Llwybr Gastro Lloegr 

 

Cyflwynodd TH y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig i ddatblygu llwybr gastro ar y cyd yn Lloegr sy'n cael ei ddatblygu gan drawstoriad o elusennau, gan gynnwys Crohn's and Colitis UK. Cytunodd TH i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
 

b.    Gwahoddiad i gyfarfod â Llywodraeth Cymru 
 

Soniodd TH fod CUK wedi’i wahodd i gyfarfod â Llywodraeth Cymru i drafod y rhwystrau posibl y mae pobl â Chlefyd Seliad yn eu hwynebu a datrysiadau posibl i wella canlyniadau. Gofynnodd TH a oedd gan unrhyw un o'r grŵp farn ar hyn.

 

Pwysleisiodd GP bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth fel bod gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn gallu adnabod symptomau nad ydynt yn gysylltiedig â'r perfedd. Ychwanegodd ei bod yn bwysig bod gan nyrsys practis, cynorthwywyr gofal iechyd a fferyllwyr ddealltwriaeth well o’r cyflwr. Hefyd, soniodd GP y gall y llwybr achosi problemau, bod angen i’r broses fod yn gyflym, a bod diet sy’n cynnwys glwten yn parhau nes bod yr unigolyn wedi gweld arbenigwr. Nododd GP ei fod yn hapus i gael ei gynnwys mewn trafodaethau pe bai hynny’n ddefnyddiol i CUK.

 

Gofynnodd EW am y llwybr clinigol pediatrig, gan nodi o'i phrofiad hi fod y cynllun yn llai amlwg. Gofynnodd RaI i'r llwybr pediatrig gael ei grybwyll i Lywodraeth Cymru. Soniodd TH fod y llwybr heb fiopsi wedi'i sefydlu'n fwy yn y maes hwn nag mewn oedolion, ond na ddylid anghofio am y llwybr pediatrig yn y drafodaeth. 

 

Soniodd CC nad oes gweithlu penodol ar gyfer clefyd seliag, ac nid yw'n cael ei ariannu'n dda iawn ym maes dieteteg. Roedd hi o’r farn y byddai gwasanaeth clefyd seliag wedi’i arwain gan ddieteteg yn fuddiol. Pwysleisiodd CC bwysigrwydd y llwybr tymor hwy a'r camau dilynol a gymerir ochr yn ochr â diagnosis.

 

Ategodd GP hyn ac ychwanegodd ei bod yn bwysig cael eglurder ynghylch a yw claf yn cael sylw dilynol mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd. Os mai gofal sylfaenol sy’n gyfrifol am hyn, mae’n rhaid sicrhau cyllid ac addysg well gan nad oes capasiti ar gael yn y maes hwn ar hyn o bryd.

 

Awgrymodd CC y dylid sefydlu rolau dietegwyr gofal sylfaenol a chamau dilynol wedi’u arwain gan y claf (‘Patient Initiated Follow-Up’ neu ‘PIFU’ yn Saesneg), fel bod gwasanaethau'n ymateb i amgylchiadau cleifion unigol a’u bod ar gael yn ôl yr angen.

 

Dywedodd IS fod ymwybyddiaeth yn allweddol ac y gellir defnyddio grwpiau lleol fel ffynonellau o arbenigedd, gan weithio gyda dietegwyr.

 

8

Unrhyw fater arall

 

Soniodd TH y bu rhai diwygiadau i gyfraith ym maes labelu bwyd heb glwten fel rhan o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir. Rhoddodd TH sicrwydd i’r grŵp fod CUK wedi bod yn gweithio gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Roedd yn hyderus bod yr Asiantaeth yn deall y materion perthnasol. Nid oes unrhyw oblygiadau i Gymru ar hyn o bryd, ond gofynnodd RaI am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn y maes hwn.

 

9

Dyddiadau’r cyfarfodydd yn y dyfodol

Dywedodd RaI y byddai dyddiad yn cael ei nodi’n agosach at yr amser

 

 

Camau i’w cymryd

Aelod

Rhannu linc i'r ymchwiliad

FN/TH

Dosbarthu cofnodion a dyddiadau posibl ar gyfer y cyfarfod nesaf

FN/TH